Yma yng Nghanolfan Arddio Tyddyn Sachau mae gennym ddewis helaeth o nwyddau atodol ar gyfer yr ardd. Rydym yn gwerthu tatws, bylbiau blodau o bob lliw, hadau llysiau a phêrlysiau. Yn ogystal mae gennym ddewis da o blanhigion tŷ. Yn un rhan o’r siop fe welwch ddewis o degins gardd yn cynnwys cerfluniau o waith haearn ar gyfer unrhyw wal allanol yr hoffech ei chuddio.
Mae gennym ddewis da o ddodrefn gardd wedi eu gwneud o amrywiol ddeunyddiau – yn goed cynaliadwy, gwaith metel a llawer mwy. Dewch draw i gael gweld fod gennym rywbeth ar gyfer pawb. Beth sydd well ar ddiwrnod braf o haf na choginio a bwyta’n yr awyr agored ac i’r perwyl hwn cewch yma ddewis o wahanol fathau o farbaciws o nwy i siarcol. Os bydd angen gwres arnoch fel bydd yr haul yn machlud, gallwn gynnig gwresogyddion amrywiol megis pydewau tân, simnewyr a.y.y.b.
Os oes rhyw ddathliad ar y gorwel, dewch i’r siop i weld ein dewis o gardiau cyfarch ar gyfer bob achlysur.
Ydych chi’n gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt lleol? Os felly mae popeth yma ar gyfer denu adar i’ch gardd. Mae gennym fyrddau bwydo o bob math, hadau, cnau mwnci, peli saim a.y.y.b. ac hefyd pob math o gynhwyswyr bwyd adar a baddonau dŵr.
Amseroedd agor y Ganolfan Arddio
Llun – Sad: 8.00 – 5.00
Sul : 10.00 – 4.00
In this section:-
- Meithrinfa
- Dodrefn Gardd
- Planhigion Gardd a Choed
- Hadau
- Cyfarpar Garddio ac Offer
- Cyngor Garddio Arbenigol
- Ymholiadau Ar – Lein
© 2018 Tyddyn Sachau Nurseries Cyf 10797682. Gwefan gan Delwedd. Cedwir pob hawlfraint