Sefydlwyd Canolfan Arddio Tyddyn Sachau n’ôl yn 1947 gan Fred Ferris. Yn wreiddiol, tyddyn bychan oedd yma lle cedwid moch a thyfu llysiau ond datblygwyd y busnes ymhellach dan ofal Brian, y mab ac wedyn Stuart, ei fab yntau ac erbyn heddiw mae’n Ganolfan Arddio a Meithrinfa lewyrchus ar dair acer a hanner o dir.
Yma, ymdrinir â’ch ymholiadau gan staff cyfeillgar a gwybodus sy’n gallu delio â phob peth sy’n ymwneud â’ch gofynion garddwriaethol. Nodwedd anarferol yw ein bod yn tyfu llawer o’n planhigion, llwyni a choed ein hunain.
Gan fod y ganolfan ar agor gydol y flwyddyn, mae’n lle delfrydol ar gyfer eich holl ofynion garddwriaethol.
Ceir digonedd o le parcio yn Tyddyn Sachau ac fe ellir trefnu i ddanfon eich nwyddau am ddim yn lleol os bydd angen.
Canolfan Arddio Tyddyn Sachau
Y Ffôr
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6UB
[t] 01758612626
[e] post@tyddynsachau.co.uk
![]() |
![]() |
© 2018 Tyddyn Sachau Nurseries Cyf 10797682. Gwefan gan Delwedd. Cedwir pob hawlfraint