Lleolir Tyddyn Sachau ar gyrion pentref Y Ffôr rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Y datblygiad diweddaraf yw’r caffi a agorwyd yn swyddogol ar y degfed o Orffennaf 2010 gan Russell Jones, cyn-gyflwynydd ar raglen S4C : Byw yn yr Ardd.
Adeiladwyd y caffi i’r safon uchaf. Mae’n olau, ysgafn ac yn gallu eistedd hyd at nawdeg o bobl y tu fewn. Addurnir y muriau gyda ffotograffau trawiadol sydd hefyd ar werth. Mae cynllun siâp L yr adeilad yn fwriadol er mwyn creu adran i deuluoedd ymlacio.
Darperir bwydlen ar gyfer plant ac mae cadeiriau uchel ar gael. Mae cornel gyda soffas a byrddau coffi yn ogystal.Os yw’r tywydd yn ffafriol gallwch fwynhau eich bwyd neu ddiod allan ar y patio sy’n eistedd hyd at ddeugain. Ymlaciwch a gwerthfawrogwch y golygfeydd gwych o’r Wyddfa, Moel Hebog a’r arfordir ymhell i lawr am Borthmadog a’r Bermo.
Rydym yn gobeithio ein bod wedi cynhyrchu bwydlen iach, resymol yn seiliedig ar fwydydd cartref gan ddefnyddio cynnyrch lleol megis ham gan Gigyddion Povey, caws Cheddar o Hufenfa De Arfon a bara ffres yn ddyddiol o Fecws Warren.
Rydym yn paratoi cawl cartref yn ogystal â’n tartenni sawrus a’r mwyafrif o’n cacennau. Credwn y byddwch yn sicr o flasu’r gwahaniaeth.
Mae Canolfan Arddio Tyddyn Sachau yn hen fusnes teuluol sefydlog. Gobeithiwn y bydd Caffi’r Tyddyn yn atyniad pellach i’n cwsmeriaid ac yn fodd pleserus i sicrhau ei ddyfodol ar gyfer y trigain mlynedd nesaf.
Amseroedd Agor y Caffi
Llun – Sad. 9.30 – 4.30
(Cegin yn cau am 4.00)
Sul 10.00 – 3.00
(Cegin yn cau am 4.00)
Rhif Ffôn y Caffi
01766 810166
© 2018 Tyddyn Sachau Nurseries Cyf 10797682. Gwefan gan Delwedd. Cedwir pob hawlfraint